Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 6 Rhagfyr 2023

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13584


177

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Dechreuodd yr eitem am 14.18

Gofynnwyd y 12 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.02

Atebwyd gan Weinidog yr Economi

Gareth Davies (Dyffryn Clwyd): Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith cau Pontins ym Mhrestatyn ar yr economi leol a thwristiaeth yn Sir Ddinbych?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.10

Gwnaeth Eluned Morgan ddatganiad am - Teyrnged i Glenys Kinnock.

Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad am - 225 mlynedd o gamlas Abertawe.

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - 120 mlynedd ers genedigaeth Jethro Gough o Aberpennar, academydd byd-enwog yn bennaf ym maes patholeg.

Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad am - 75 mlynedd ers y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (10 Rhagfyr).

</AI5>

<AI6>

5       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Canser y pancreas

Dechreuodd yr eitem am 15.17

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8385 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas, ac mai 16 Tachwedd 2023 yw Diwrnod Byd-eang Canser y Pancreas;

b) bod y cyfraddau goroesi yng Nghymru a'r DU yn dal i fod ar ei hôl hi o gymharu â llawer o Ewrop a'r byd;

c) bod canser y pancreas yn anodd ei ganfod a bod diagnosis yn cymryd gormod o amser gyda phrosesau araf a phrofion niferus yn gadael pobl yn y tywyllwch;

d) ar ôl canfod y canser, mae pobl yn wynebu rhwystrau enfawr o ran cael y wybodaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt i fod yn ddigon da i gael triniaeth, gyda llawer o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu gadael heb unrhyw gynllun cymorth ar waith, a heb help i reoli symptomau; ac

e) ar ôl cael diagnosis, dim ond 3 o bob 10 o bobl sy'n cael unrhyw driniaeth, y gyfran isaf o bob math o ganser, a bod hanner y bobl yn marw o fewn mis i'r diagnosis.

2. Yn deall bod angen i bobl sydd â chanser y pancreas gael llwybr cyflymach a thecach a ariennir drwy gydol eu diagnosis, triniaeth a gofal, a hynny ar frys.

3. Yn cefnogi ymdrechion Pancreatic Cancer UK i sicrhau bod llwybr o'r fath yn cael ei weithredu. 

4. Yn canmol yr holl elusennau a sefydliadau ymgyrchu a'u cefnogwyr ymroddedig am eu hymdrechion diflino i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas, ac yn dymuno pob llwyddiant i bawb sy'n ymwneud â Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas yn eu hymdrechion.

Cyd-gyflwynwyr

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cefnogwyr

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Joel James (Canol De Cymru)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

11

0

50

Derbyniwyd y cynnig.

</AI6>

<AI7>

Am 16.02, gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad byr i’r Aelodau yn eu hysbysu o ddigwyddiad yn effeithio ar Ysbyty Maelor Wrecsam a chadarnhaodd nad oedd unrhyw anafiadau difrifol wedi’u cofnodi ar hyn o bryd.

</AI7>

<AI8>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strategaeth ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd

Dechreuodd yr eitem am 16.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8437 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod rôl cludo llwythi ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg wrth gefnogi economi Cymru.

2. Yn gresynu na fu strategaeth benodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd ers 2008.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth benodol ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd sy'n cynnwys:

a) canolfannau llesiant diogel ar gyfer gyrwyr lorïau a choetsys ledled Cymru;

b) rhwydwaith helaeth o bwyntiau gwefru ac ail-lenwi ar gyfer coetsys a cherbydau nwyddau trwm trydan neu hydrogen; ac

c) newidiadau i'r system gynllunio yng Nghymru i sicrhau y gellir darparu seilwaith cludo llwythi ar y ffyrdd mor effeithlon â phosibl.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

33

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at effaith niweidiol Brexit ar y sector cludo llwythi ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg yng Nghymru, gyda chyfeintiau llwythi Cymru 27 y cant yn is na lefelau 2019 o hyd.

Yn credu y byddai ailymuno â Marchnad Sengl Ewrop yn rhoi hwb hanfodol i fasnach llwythi ym mhorthladdoedd Cymru megis Caergybi, a'r sector cludo llwythi ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg ar draws Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

36

46

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi bod Llwybr Newydd yn amlinellu’r ffordd ymlaen ar gyfer cludo llwythi a logisteg ac yn cefnogi datblygiad cynllun ar gyfer cludo llwythi a logisteg.

Yn cefnogi’r gwaith hwn, a fydd yn golygu ffordd aml-ddull o gydweithio gyda diwydiant i hyrwyddo:

a) gwelliannau i’r cyfleusterau llesiant diogel ar gyfer gyrwyr lorïau a choetsys ledled Cymru;

b) camau i sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i fanteisio ar dechnolegau newydd sy'n gysylltiedig â cherbydau nwyddau trwm a choetsys trydan a hydrogen, gan adlewyrchu ansicrwydd o fewn y diwydiant ynghylch y datblygiadau hyn; ac

c) gwaith i fabwysiadu dull cenedlaethol a strategol o wella’r seilwaith ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd ledled Cymru.

Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021 | LLYW.CYMRU

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

24

47

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

</AI8>

<AI9>

7       Dadl Plaid Cymru - Tlodi tanwydd

Dechreuodd yr eitem am 16.43

NDM8435 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod yr argyfwng costau byw presennol yn dangos pa mor fregus yw cymunedau yng Nghymru i gost ynni.

2. Yn gresynu bod amcangyfrif o hyd at 98 y cant o aelwydydd incwm isel yng Nghymru mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ym mis Ebrill 2022.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithredu'r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar fyrder i gefnogi aelwydydd incwm isel i wneud eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni y gaeaf hwn; a

b) gosod targedau interim yn ei Chynllun Trechu Tlodi Tanwydd 2021-2035 i fesur cynnydd.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno tariff cymdeithasol i gefnogi'r rhai mewn angen gyda'u biliau ynni y gaeaf hwn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI9>

<AI10>

8       Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.37

</AI10>

<AI11>

9       Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 17.43

NDM8424 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus: pam y dylai pobl ifanc gael teithio am ddim

</AI11>

<AI12>

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.11

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Rhagfyr 2023

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>